Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27
Medi 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
(45 munud)
(30 munud)
(15 munud)
NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6097 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Siarter Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb Fframwaith drafft y BBC.
'Siarter Frenhinol ddrafft y BBC a Chytundeb drafft y BBC'
Dogfen Atodol
‘Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Adolygu Siarter y BBC’
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r cyfeiriadau cadarnhaol at S4C yng Nghytundeb Fframwaith Drafft y BBC ac yn enwedig y cyfeiriad at y nod a gaiff ei rannu rhwng S4C a'r BBC o gydweithio i gydnabod ac amddiffyn eu hannibyniaeth.
Gwelliant 2.Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr adolygiad arfaethedig o gylch gwaith a chyllid S4C, a ddisgwylir yn 2017, yn ystyried lefel y cyllid, a'r dull mwyaf priodol o gyllido S4C yn yr hirdymor i amddiffyn ei hannibyniaeth a sicrhau y gall gynhyrchu rhaglenni o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd Cymru am flynyddoedd i ddod.
Gwelliant 3.Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, â phryder, y goblygiadau i BBC Cymru o ran peidio â newid ffi’r drwydded.
Gwelliant 4.Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y BBC i sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu i anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed yn Siarter Frenhinol Ddrafft y BBC i gynulleidfaoedd yng Nghymru, gan gynnwys:
(a) bod y BBC yn adlewyrchu ac yn cynrychioli cymunedau amrywiol y DU, a'i bod yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn ei chymdeithas;
(b) bod yn rhaid i'r BBC gefnogi ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifoedd y DU, a pharhau i gefnogi rhaglenni a gynhyrchir yn Gymraeg; ac
(c) bod safbwyntiau a diddordebau gwahanol y cyhoedd a chynulleidfaoedd ledled y DU yn cael eu hystyried wrth i'r BBC wneud penderfyniadau.
Gwelliant 5.Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd unrhyw reoleiddiwr y BBC yn y dyfodol hefyd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 28 Medi 2016